12 Gorffennaf 2023
Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddwyd ein bwriad i ddatblygu banc cymunedol i Gymru.
Ers hynny, mae sefyllfa economaidd y DU wedi newid yn sylweddol - mae cyfraddau llog yn codi, mae prisiau tai yn gostwng ac mae'r argyfwng costau byw yn parhau.
Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol bwrpasol, rydym yn blaenoriaethu ein haelodau a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cymryd unrhyw risgiau diangen a allai effeithio ar berfformiad y Gymdeithas neu’r ymddiriedaeth y mae ein haelodau yn ei rhoi ynddom.
Wrth ystyried yr anrhagweladwyedd presennol a’r heriau parhaus sy’n wynebu economi’r DU, rydym wedi penderfynu rhoi stop ar waith ein banc cymunedol. Credwn mai dyma'r peth cywir a chyfrifol i'w wneud.
Gwyddom fod hyn yn siomedig ond rydym am fod yn onest gyda phawb sydd wedi cefnogi ein gwaith hyd yn hyn.
Mae bancio cymunedol eisoes wrth wraidd popeth a wnawn felly rydym yn parhau i weithio ar systemau, seilwaith a gweithgareddau a fydd yn gwella profiad ein haelodau presennol ac yn cefnogi unrhyw gynnig bancio cymunedol yn y dyfodol.
Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i bobl a chymunedau Cymru a byddwn yn parhau i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n addas at y diben ac sy'n diwallu anghenion ein haelodau presennol, aelodau'r dyfodol a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a’n cefnogi ar ein taith hyd yn hyn.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd pethau'n newid.